Cylch yr Iaith

Llywydd: Dr Meredydd Evans

 

 

I sylw Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Yr Ymgynghoriad ar y Bil Cynllunio

 

 

Argymhellion Cylch yr Iaith

 

1.      Gwneud y Gymraeg yn Ystyriaeth Gynllunio Berthnasol fel bod grym statudol gan gynghorau sir i wrthod ceisiadau cynllunio ar sail eu heffaith ar y Gymraeg yn unig.

 

 

2.      Sefydlu trefn lle bo Cynlluniau Datblygu Lleol yn seiliedig ar anghenion cymunedol yn hytrach na gosod targedau tai cenedlaethol yn ôl amcanestyniadau poblogaeth sy’n seiliedig ar batrymau hanesyddol. Dylai Cynllun Datblygu Lleol fod yn fframwaith ar gyfer cynlluniau datblygu cymunedol yn seiliedig ar anghenion cymunedol.

 

3.      Sefydlu Tribiwnlys Cynllunio annibynnol i Gymru i ddisodli’r Arolygaeth Gynllunio bresennol.

 

4.      Sicrhau bod corff allanol Cymreig gyda'r wybodaeth arbenigol briodol yn gyfrifol am ddatblygu modelau asesiadau effaith ieithyddol newydd ac yn gyfrifol am gynnal yr asesiadau. Mae’r modelau presennol yn offerynnau diffygiol, a dylid creu modelau sydd wedi eu seilio ar dystiolaeth feintiol ac sy’n cynnwys astudiaethau achos cymharol.

 

 

 

Ieuan Wyn

(ar ran Cylch yr Iaith)

 

7 Tachwedd, 2014

 

Talgarreg, Ffordd Carneddi, Bethesda, Gwynedd LL57 3SG

 

cylch@tiscali.co.uk      01248 600297

 

     

Cadeirydd:  Elfed Roberts                Trysorydd: Helga Martin